Partneriaid adeiladu'n ysbrydoli pobl ifanc
22ain Chwefror 2024
Dydd Mawrth, gwnaethom gefnogi Willmott Dixon mewn diwrnod gyrfaoedd i ddisgyblion blwyddyn naw yn Ysgol Uwchradd Eglwys Gatholig St Albans ym Mhont-y-pŵl. Mae'r contractwr yn adeiladu adeilad newydd Heddlu Gwent yn Y Fenni.
Cafodd disgyblion glywed am yr amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu a chawsant gyfle i edrych ar efelychiad 3D o rai o brosiectau presennol Willmott Dixon. Mae ymweliadau addysgol fel y rhain yn un o'r ffyrdd mae'r cwmni'n cyfrannu at y cymunedau mae'n gweithio ynddynt.
Mae adeilad newydd Heddlu Gwent yn Llan-ffwyst i fod i agor yn y gwanwyn yn 2024 a bydd yn gartref i dimau plismona cymdogaeth ac ymateb.