Parêd cwblhau hyfforddiant ar gyfer cwnstabliaid gwirfoddol newydd
Yr oedd yn bleser gennyf ymuno â grŵp o gwnstabliaid gwirfoddol newydd a’u teuluoedd yn eu parêd cwblhau hyfforddiant yr wythnos hon. Mae’r parêd yn dathlu cwblhau eu hyfforddiant, a byddant nawr yn cael eu lleoli i gefnogi swyddogion arferol Heddlu Gwent.
Mae swyddogion heddlu gwirfoddol yn rhoi haen ychwanegol o wydnwch i Heddlu Gwent sy’n helpu’r heddlu i gyflawni ei ymrwymiad i ddiogelu a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd. Yn union fel swyddogion cyffredin, maent yn gweithio dan bwysau aruthrol ac amgylchiadau anodd iawn, gan roi eu hunain mewn perygl personol mawr yn aml. Maent yn rhoi o’u hamser personol eu hunain i wneud hyn, ar ben eu prif swyddi a’u hymrwymiadau teuluol, a rhaid canmol yr ymroddiad hwn i wasanaeth cyhoeddus.
Mae'r recriwtiaid newydd hyn wedi gweithio'n galed ac wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau yng Ngwent. Dymunaf y gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.