Parchu Rhymni
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi canmol tîm plismona’r gymdogaeth yng Nghaerffili am fenter newydd i daclo troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Rhymni.
Mae Parchu Rhymni yn bartneriaeth rhwng yr heddlu a’r awdurdod lleol i amharu ar grwpiau troseddu yn yr ardal gan ac yna gweithio gyda thrigolion ar brosiectau adfywio i adfer balchder yn y gymuned.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae swyddogion Heddlu Gwent wedi bod yn ymchwilio ac wedi arestio wyth aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol sydd wedi arwain at leihad yn nifer y troseddau ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Erbyn hyn, mae cam nesaf y fenter ar y gweill yn dilyn ymgyrch gorfodi dros gyfnod o ddeuddydd a arweiniodd at arestio rhywun a oedd dan amheuaeth o ddelio cyffuriau, ac arestio pobl eraill am droseddau yn amrywio o ddwyn o siopau i yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae gweld y gwaith partneriaeth da sy’n digwydd yn Rhymni i daclo problemau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal wedi gwneud cryn argraff arnaf i.
"Ni all yr heddlu wneud hyn ar ei pen eu hunain ac maent yn dibynnu ar wybodaeth gan y cyhoedd, felly os oes gennych chi unrhyw wybodaeth a allai helpu, cysylltwch â nhw ar 101, neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111 i roi gwybodaeth yn ddienw. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser."
Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael ar Wefan Heddlu Gwent.