Panel Heddlu a Throsedd Gwent yn gwneud argymhelliad ar gyfer y praesept
Heddiw mae Panel Heddlu a Throsedd Gwent wedi adolygu’r praesept treth y cyngor arfaethedig a amlinellwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert.
Mae wedi argymell y dylai'r Comisiynydd ystyried opsiynau i leihau'r cynnydd arfaethedig i'r praesept o 6.99 y cant i 6 y cant ar gyfer 2020/21.
Gwnaeth Panel Heddlu a Throsedd Gwent, sy'n gorff o gynrychiolwyr o bob un o'r pum sir yng Ngwent, yr argymhelliad mewn cyfarfod panel yn Neuadd y Sir, Brynbuga.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwy'n deall bod hwn yn benderfyniad anodd i'r panel ac y gallai unrhyw gynnydd fod yn galed i breswylwyr.
“Rwy'n falch nad yw wedi rhoi feto ar y cynnig a'i fod wedi gwrando ar y ddadl ariannol gadarn gan fy swyddfa i a Heddlu Gwent.
“Byddaf yn siarad â Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent i ddeall sut gallai argymhelliad y panel effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir.”
Mae angen i'r panel gyflwyno adroddiad ar yr argymhelliad erbyn 8 Chwefror ac mae'n rhaid i'r Comisiynydd ymateb i ddweud a yw'n derbyn yr argymhelliad erbyn 15 Chwefror.