Nid problem heddlu yw ymddygiad gwrthgymdeithasol ond problem partneriaeth
“Mae cydgyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol" meddai arweinwyr Plismona Lleol Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd (APCC).
Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr wythnos hon, mae arweinwyr Plismona Lleol APCC yn pwysleisio bod gan bob un ohonom ni gydgyfrifoldeb i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Nod yr wythnos, sy'n rhedeg o 18 - 25 Gorffennaf, yw codi ymwybyddiaeth o effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau a hysbysu'r cyhoedd am y rôl hollbwysig mae pob un ohonom yn ei chwarae wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai arweinwyr Plismona Lleol APCC a chomisiynwyr yr heddlu a throsedd Steve Turner a Jeff Cuthbert: “Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a chymunedau ac mae'n gallu bygwth agweddau sylfaenol bywyd bob dydd pobl.
"Ni ddylai unrhyw un deimlo'n ofnus, dan fygythiad nac yn anniogel yn ei gymuned ei hun ac mae atal yn gwbl allweddol i sicrhau nad yw pobl sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau i ddilyn llwybr sy'n arwain at fwy o drallod a niwed yn ein cymunedau.
"Mae'n bwysig pwysleisio nad problem plismona yw ymddygiad gwrthgymdeithasol ond problem partneriaeth.
“Mae comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn chwarae rhan hollbwysig yn dod â phartneriaid ac asiantaethau at ei gilydd i fynd i'r afael â phroblemau yn y gymuned ar ran y cyhoedd. Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn brif flaenoriaeth ym mhob cynllun heddlu a throsedd yng Nghymru a Lloegr. Fel llais y cyhoedd, rydym yn parhau i ariannu prosiectau ac ymgyrchoedd atal ac yn gweithio gyda phartneriaid i roi cymorth i bobl ifanc agored i niwed.
“Ar draws y DU, rydym yn gweithio gyda holl gomisiynwyr yr heddlu a throsedd i adolygu'r dulliau, y grymoedd a'r ysgogiadau i ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i atal yn lleol.”