Ni fydd unrhyw drosedd casineb yn cael ei goddef yng Ngwent
Ni fydd unrhyw drosedd casineb yn cael ei goddef yng Ngwent.
Mae'n drosedd erchyll a chymhleth ac mae'n gallu gadael dioddefwyr gyda niwed corfforol ac emosiynol am lawer o flynyddoedd.
Fe allwch ddioddef trosedd casineb oherwydd eich bod: yn anabl, crefyddol (neu ddim), lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (neu ddim), trawsryweddol, neu o wlad wahanol, o gefndir ethnig gwahanol, neu oherwydd bod lliw eich croen yn wahanol.
Mae rhaniadau gwleidyddol a phryderon cymdeithasol ac economaidd wedi dwysau yn ystod y blynyddoedd diweddar. Yn anffodus, mae'r ddadl ynghylch Brexit, a nawr y newidiadau i fywyd bob dydd oherwydd Covid-19, wedi creu tensiynau yn ein cymunedau.
Ond nid yw hynny'n esgus. Mae trosedd casineb yn annerbyniol mewn cymdeithas waraidd.
Dylai Gwent fod yn rhywle lle gall pobl fyw a gweithio heb ofn.
Rwyf yn gweithio gyda Heddlu Gwent i wella'r ffordd mae dioddefwyr yn riportio troseddau casineb ac yn ystod y blynyddoedd diweddar mae nifer yr achosion sy'n cael eu riportio wedi cynyddu'n sylweddol.
Mae Swyddogion Cefnogi Trosedd Casineb pwrpasol wedi cael eu cyflwyno o fewn Heddlu Gwent ac mae gwasanaethau trosedd casineb arbenigol ar gael i ddioddefwyr yn awr trwy ganolfan dioddefwyr Connect Gwent.
Rydym wedi derbyn clod gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi am y gwaith hwn ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon ac mae mwy y gallwn ei wneud.
Bydd Prif Gwnstabl Kelly a minnau'n parhau i weithio i sicrhau bod dioddefwyr trosedd casineb yng Ngwent yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl gan eu heddlu.
Os ydych chi'n dioddef trosedd casineb, neu'n adnabod rhywun sy'n dioddef, gofynnaf yn daer arnoch i riportio'r mater i Heddlu Gwent.
Dylai dioddefwyr riportio unrhyw ddigwyddiadau o drosedd casineb i'r heddlu.
Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.