Ni ddylai neb orfod dioddef cam-drin a thrais domestig

2il Ebrill 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cadarnhau ymrwymiad Heddlu Gwent i roi cymorth i bobl sy’n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod cyfyngiadau symud Coronafeirws.

Dywedodd: “Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae Heddlu Gwent wedi gweld cwymp sylweddol yn y nifer o achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n cael eu riportio.

"Mae'r rhain yn droseddau nad ydyn nhw’n cael eu riportio’n ddigonol yn ein cymunedau yn barod, ac rydym yn gwybod eu bod yn dal i ddigwydd. Mae'r cyfyngiadau symud cenedlaethol yn golygu, yn anffodus, y gallai mwy o achosion ddigwydd yn y cartref ac rydym am i bobl sy'n dioddef cam-drin o'r fath geisio cael help.

“Rwy'n croesawu ymrwymiad cadarn Prif Gwnstabl Pam Kelly y bydd Heddlu Gwent yn parhau i weithio'n galed i fynd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

"Rydym ni'n gwybod y gall cam-drin arwain at ganlyniadau sy'n gallu newid bywyd y bobl sy'n ei ddioddef a'u hanwyliaid. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn roi'r help a'r gefnogaeth arbenigol sydd eu hangen arnoch chi i roi terfyn ar y cam-drin a sicrhau nad yw'n digwydd eto.

“Peidiwch â dioddef yn dawel. Mae help ar gael.”

Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.

I gael cyngor a chymorth, cysylltwch â Byw Heb Ofn am ddim ar 0808 801800.

Mae cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol ar gael yma hefyd www.gwentsafeguarding.org.uk