Ni chaniateir troseddau casineb
Ni chaniateir unrhyw fath o droseddau casineb yng Ngwent a dylid rhoi gwybod am unrhyw achosion yn uniongyrchol i'r heddlu.
Dyma neges gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Heddlu Gwent yn dilyn yr ymosodiad terfysgol arswydus yn Seland Newydd.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae hwn yn ymosodiad cyhoeddus arswydus, sydd wedi creu syndod ledled y byd.
“Heddiw, mae'n rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd mewn undod i gofio'r rheini a gollodd eu bywydau yn yr ymosodiad terfysgol atgas a ffiaidd hwn.
“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i addysgu pobl bod cam-drin casineb yn anghywir o oedran ifanc ac i wrthsefyll eithafiaeth ffyrnig o bob math.
“Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf i holl deuluoedd a ffrindiau'r rheini sydd wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn y drychineb hon a mynegi fy nghefnogaeth i'r gymuned Islamaidd a phoblogaeth ehangach Seland Newydd hefyd.
“Rydym yn meddwl am bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau erchyll yn Christchurch.”
Caiff unrhyw un yng Ngwent sydd wedi bod yn destun digwyddiad neu drosedd casineb – p'un a ydyw'n llafar, corfforol neu ar-lein – eu hannog i roi gwybod amdano yn uniongyrchol i Heddlu Gwent.
Gallech fod yn ddioddefwr trosedd casineb oherwydd eich bod yn:
- Anabl
- Crefyddol (neu ddim)
- Lesbiaid, hoyw neu ddeurywiol (neu ddim)
- O wlad wahanol, o darddiad ethnig gwahanol, neu â lliw croen gwahanol
- Trawsrywedd
Gall digwyddiadau a throseddau casineb gynnwys:
- Ymosodiadau corfforol
- Sarhad ysgrifenedig neu ar lafar
- Fandaliaeth
- Graffiti
- Ymddygiad bygythiol
Aeth Jeff Cuthbert ymlaen i ddweud: "Rydym yn gwneud llawer o waith i wella cydlyniant cymunedol ac i fynd i'r afael â phroblemau radicaleiddio, beth bynnag fo'u natur a'u casineb. Mae'n hynod o bwysig ein bod yn cymryd camau i nodi'r rheini sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio gan weithio ar y cyd i newid agweddau. Mae angen i ni hefyd nodi'r rhai sy'n hyrwyddo achosion o radicaleiddio a gweithio gyda'n gilydd i'w hatal.
“Fodd bynnag, erys y ffaith ei fod yn annerbyniol targedu unrhyw un oherwydd eich rhagfarn bersonol yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r amrywiaeth o droseddau casineb yn dinistrio bywydau dioddefwyr, a gall eu niweidio'n gorfforol ac emosiynol am flynyddoedd yn dilyn y digwyddiad.
“Mae'n drosedd ofnadwy a chymhleth, a all gael effaith negyddol ar gymunedau a'u rhannu, a chynyddu ofn. Mae'n rhaid i ni ei wrthsefyll.”
Mae Heddlu Gwent yn ymdrin ag unrhyw adroddiad o drosedd casineb yn ddifrifol. Mae cam-drin neu drais yn erbyn unigolion neu grwpiau oherwydd pwy ydynt, p'un a yw'n gorfforol neu ar lafar, yn drosedd.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Gallwch hefyd roi gwybod am drosedd casineb yn gyfrinachol os byddai'n well gennych i Cymorth i Ddioddefwyr ar www.reporthate.victimsupport.org.uk neu 0300 303 1982.