Nhaith Undod yr Heddlu
Daeth teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr at ei gilydd ym mhencadlys Heddlu Gwent y bore yma i ffarwelio â'r 20 swyddog heddlu sy'n cymryd rhan yn Nhaith Undod yr Heddlu eleni.
Fel rhan o'r daith beiciau a gynhelir bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth am swyddogion sydd wedi marw wrth gyflawni eu dyletswydd ac i godi arian i elusen Care of Police Survivors, bydd tîm beicio Gwent yn teithio 180 milltir o'u pencadlys yng Nghwmbrân i'r Goedardd Genedlaethol yn Swydd Stafford.
Ymunodd y Prif Gwnstabl dros dro Pam Kelly â'r beicwyr ar y llinell gychwyn, ynghyd â'r Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas, a roddodd ganmoliaeth i'r rhai a oedd yn cymryd rhan a dymuno'r gorau iddyn nhw ar eu taith.
Mae Care of Police Survivors (COPS) yn elusen gofrestredig yn y DU sydd wedi ymroi i helpu teuluoedd swyddogion heddlu a gollodd eu bywydau pan oeddent ar ddyletswydd.
Os hoffech chi gefnogi Tîm Gwent, ewch i'w tudalen codi arian, https://www.justgiving.com/fundraising/ukunitytour.