Newport Kerala Community yn ymweld â Phencadlys yr Heddlu

18fed Gorffennaf 2024

Mae plant a phobl ifanc o gymuned Kerala Casnewydd wedi ymweld â phencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân i gael golwg y tu ôl i'r llenni ar blismona.

Aeth y bobl ifanc 11 - 17 oed ar daith o gwmpas yr adeilad a chawsant weld ystafell gyswllt a rheoli'r heddlu, sy'n ymdrin â galwadau 999 a 101. Cawsant eu cyflwyno i swyddogion o'r uned plismona ffyrdd hefyd a chawsant gyfle i gwrdd â rhai o gŵn heddlu Gwent.

Mae Newport Kerala Community yn sefydliad sy'n cynrychioli pobl ifanc o Kerala yn India ac mae'n ceisio cynnal diwylliant a thraddodiadau'r rhanbarth wrth helpu aelodau i integreiddio gyda'r gymuned Gymreig ehangach. Trefnwyd yr ymweliad i adeiladu pontydd gydag aelodau'r gymuned a'r heddlu, ac i roi cipolwg i'r bobl ifanc ar y gyrfaoedd sydd ar gael yn y maes plismona.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: “Roeddem yn falch iawn i gefnogi'r digwyddiad yma a oedd yn gyfle gwych i ddod â phlant a phobl ifanc o'r gymuned Kerala i mewn i bencadlys yr heddlu a rhoi blas iddyn nhw o'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni.

“Rwy'n awyddus i ddangos i'n plant a phobl ifanc ni waeth beth yw eu hil neu grefydd, bod croeso iddyn nhw yn y maes plismona, ac y gallant chwarae eu rhan a'n helpu ni i wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau.”