Mynd i'r afael â throsedd yn ein cymunedau cefn gwlad
Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Gweithredu Troseddau Cefn Gwlad.
I nodi lansiad yr wythnos genedlaethol o weithredu, ymunodd fy nhîm gyda thîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gwent i gwrdd â ffermwyr, gweithwyr a thrigolion cefn gwlad ym Marchnad Da Byw Trefynwy.
Roedd yn gyfle da i ymgysylltu â'n cymunedau cefn gwlad am y materion sy’n effeithio arnyn nhw, a hoffwn ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn siarad gyda fy nhîm.
Yr wythnos yma mae Cadeirydd Rhwydwaith Cenedlaethol Troseddau Cefn Gwlad wedi manteisio ar y cyfle i alw ar bob Prif Gwnstabl yng Nghymru a Lloegr i gyflwyno timau troseddau cefn gwlad i'w heddluoedd. Gwnaethom sefydlu tîm troseddau cefn gwlad Gwent yn 2019 ac rwyf yn falch ein bod wedi bod mor flaengar.
Mae’r tîm wedi ymroi i fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad, treftadaeth a bywyd gwyllt. Mae'r gwaith yma'n gallu amrywio o gefnogi awdurdodau lleol i atal tipio anghyfreithlon, helpu i amddiffyn ceirw Gwent rhag potswyr, gweithio gyda ffermwyr i ddiogelu eu heiddo neu atal difrod a fandaliaeth i rai o'n hadeiladau mwyaf hanesyddol.
Efallai nad yw proffil troseddau cefn gwlad mor uchel â phroffil mathau eraill o droseddau, ond mae eu heffaith ar ddioddefwyr yr un mor bwysig. Rydyn ni'n dibynnu ar y cymunedau yma i gynhyrchu bwyd, a chyfleoedd ar gyfer twristiaeth a hamdden, ac i edrych ar ôl ein treftadaeth a'n mannau agored gwyrdd. Mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud beth bynnag y gallwn ni i'w hamddiffyn nhw.
Gallwch ddilyn tîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gwent ar X (Twitter gynt) trwy gydol yr wythnos i gael y newyddion diweddaraf - @GPRuralCrime.