Mynd am dro o amgylch Maesglas
11eg Awst 2022
Yr wythnos hon ymunais â Jayne Bryant AS a chynghorwyr lleol o Gasnewydd i ymweld â Maesglas.
Buom yn siarad am rai o'r problemau y mae trigolion yn eu hwynebu gan ymweld â rhai o'r mannau lle ceir problemau.
Fel sy’n wir am y rhan fwyaf o'r problemau sy'n ein hwynebu mewn cymdeithas, mae angen dull partneriaeth o weithredu ar y materion hyn. Byddaf yn adrodd yn ôl i'r Prif Gwnstabl a phartneriaid eraill i weld sut y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd a gwneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y trigolion hyn.