Myfyrwyr yr heddlu'n graddio
Yr wythnos hon mae 55 o swyddogion newydd Heddlu Gwent wedi ennill gradd Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona.
Mae'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio ar gyfer cymhwyster academaidd, gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wrth iddynt gyflawni eu hyfforddiant heddlu.
Mae hyn yn galluogi swyddogion heddlu i godi eu safonau proffesiynol yn wyneb natur newidiol trosedd ac yn caniatáu i recriwtiaid ddysgu wrth ennill cyflog.
Mae'r swyddogion hyn wedi gwneud yn arbennig o dda. 'Dyw astudio ar gyfer gradd academaidd wrth fynd trwy'r hyfforddiant ymarferol y mae'n rhaid i swyddogion heddlu ei dderbyn ddim yn hawdd. Hoffwn longyfarch pob un ohonyn nhw ar eu llwyddiant a dymuno pob hwyl iddyn nhw yn y dyfodol.