Mis Pride
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn cefnogi Mis Pride sy'n cael ei gynnal ym mis Mehefin.
Dywedodd: “Mis Mehefin yw Mis Pride pan fyddwn yn dathlu cymunedau LGBTQ+ ar draws y byd.
“Mae angen gwneud mwy i herio'r rhagfarn a gwahaniaethu mae'r gymuned LGBTQ+ yn gorfod eu hwynebu a, thrwy fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, rwyf wedi ymroi i sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd gwaith fy swyddfa i a Heddlu Gwent.
“Rydym yn ffodus bod Umbrella Cymru, sy'n rhoi cymorth rhywedd a hunaniaeth rywiol arbenigol, yn un o'n partneriaid yng nghanolfan dioddefwyr Connect Gwent. Mae'r tîm yno'n rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol, cyngor a gwybodaeth i bobl LGBTQ+ o bob oedran sydd wedi profi trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â darparu cymorth ehangach yn ymwneud â rhywedd a hunaniaeth rywiol ledled Cymru.
“Os ydych chi wedi profi trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac angen siarad â rhywun, cysylltwch â Connect Gwent ar 0300 123 2133. Neu, gallwch gysylltu'n uniongyrchol ag Umbrella Cymru ar 03003023670 neu ewch i www.umbrellacymru.co.uk am fanylion cyswllt.”