Mind Casnewydd

7fed Tachwedd 2024

Mae Mind Casnewydd yn rhoi cymorth iechyd meddwl wedi’i lywio gan drawma i blant a phobl ifanc 11-25 oed, wedi’i gefnogi gan gyllid gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae prosiect Darn wrth Ddarn yn rhoi cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc a theuluoedd sydd wedi profi trawma yn ddiweddar. Mae gweithwyr cymorth yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i helpu pobl ifanc i brosesu eu profiadau meddyliol ac emosiynol, gwella perthnasoedd o fewn y teulu ac archwilio strategaethau ymdopi newydd i leihau unrhyw effaith bellach y gall iechyd meddwl gwael ei chael.

Ers i’r prosiect ddechrau, mae staff wedi cefnogi llawer o ddioddefwyr a phobl ifanc agored i niwed sy’n wynebu risg o gamdriniaeth, troseddau casineb, camfanteisio rhywiol, trais domestig a throseddau cyffuriau.

Meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: “Mae cefnogi aelodau o’n cymuned sy’n agored i niwed, yn enwedig plant a phobl ifanc, yn bwysig iawn i mi. Drwy ymyrryd cyn gynted â phosibl a darparu’r gofal cywir, y gobaith yw y gallwn stopio problemau rhag gwaethygu a diogelu’r rhai sy’n wynebu risg o gyflawni troseddau difrifol neu ddioddef troseddau o’r fath.

“Mae’r tîm yn Mind Casnewydd yn gwneud gwaith arbennig ac rwy’n falch o weld bod y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc yng Ngwent.”

Derbyniodd y prosiect gyllid o gronfa gymunedol y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sy’n cefnogi prosiectau sy’n anelu at gadw plant a phobl ifanc yng Ngwent yn ddiogel, yn hapus ac yn iach.

Meddai Emily Thomas o Mind Casnewydd: “Mae’n fraint gennym allu darparu lle diogel a chefnogol i bobl ifanc a’u teuluoedd y mae troseddau wedi effeithio arnynt er mwyn gwella eu hiechyd meddwl, eu lles a’u profiadau, ac mae hyn yn bosibl diolch i’r cyllid rydym wedi’i gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

“Rydym yn ystyried bod pob atgyfeiriad newydd sy’n dod atom yn gyfle i newid ac i gael gwellhad. Rydym yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc i leihau ymddygiad aildroseddu a’u hannog i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hunain, eu teuluoedd a’u cymuned ehangach.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Mind Casnewydd - https://newportmind.org/piecebypiece, ffoniwch 01633 258741 neu e-bostiwch cypf@newportmind.org