Miloedd o ddioddefwyr wedi cael cefnogaeth yn ystod 100 diwrnod cyntaf yr Uned Gofal Dioddefwyr
“O'r diwedd, mae gen i obaith y bydd pethau'n gwella.”
Dyma eiriau dioddefwr trosedd sydd wedi cael cefnogaeth gan yr uned gofal dioddefwyr ers ei lansiad 100 diwrnod yn ôl.
Mae'r uned, sy'n cynnwys 18 swyddog gofal tystion wedi eu lleoli yng Nghanolfan Dioddefwyr Connect Gwent yng Nghoed-duon, wedi bod yn rhoi cefnogaeth a gofal i ddioddefwyr ers 12 Gorffennaf.
Yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, maen nhw wedi cefnogi 2,761 o ddioddefwyr trwy gynnal asesiad pwrpasol o'u hanghenion ac maen nhw wedi atgyfeirio 418 o ddioddefwyr i dderbyn cymorth pellach gan asiantaethau partner o fewn Connect Gwent.
Mae'r swyddogion gofal dioddefwyr yn gweithredu fel pwynt cyswllt i ddioddefwyr o'r adeg y byddant yn riportio trosedd hyd at ddiwedd y broses cyfiawnder troseddol. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda swyddogion i sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn newyddion rheolaidd am yr ymchwiliad maen nhw'n rhan ohono.
Dyma rai sylwadau gan ddioddefwyr sydd wedi cael cefnogaeth gan yr uned gofal dioddefwyr:
“Diolch o galon i chi am bopeth rydych wedi ei wneud. O'r diwedd, mae gen i obaith y bydd pethau'n gwella.
"Dwi mor hapus gyda'r help rydych wedi ei roi i mi. Dwi'n teimlo nad ydw i ar ben fy hun.”
"Rwy'n teimlo bod rhywun yna wrth fy ochr i drwy'r holl beth.”
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Ian Roberts: “Rydym yn gwybod bod trosedd yn gallu cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, yn emosiynol ac yn gorfforol - ni ddylai unrhyw un deimlo'n unig na theimlo nad yw'n cael cefnogaeth.
"Rydym am sicrhau bod pob dioddefwr trosedd yn gallu cael cefnogaeth arbenigol. Rwyf yn falch bod ein swyddogion gofal dioddefwyr wedi gwneud gwahaniaeth eisoes i'r bobl sydd ei angen fwyaf yn ein cymunedau a byddant yn parhau i wneud hynny.
"Bydd cefnogi dioddefwyr wrth galon popeth a wnawn ni bob amser ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan bob dioddefwr fwy o hyder i riportio digwyddiadau wrth yr heddlu."
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae sicrhau bod dioddefwyr trosedd yn derbyn y gwasanaethau, y gofal a'r cymorth gorau posibl yn flaenoriaeth i mi. Dyna pam rwyf wedi rhoi lle blaenllaw i gefnogi dioddefwyr yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd.
"Mae'r uned gofal dioddefwyr newydd yn ganolog i'r gwaith hwn. Mae'n golygu bod dioddefwyr yn gallu elwa ar fod mewn cysylltiad rheolaidd gyda swyddog gofal dioddefwyr sy'n gweithio ochr yn ochr â'r tîm heddlu sy'n ymchwilio i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth ac yn cael y manylion diweddaraf am eu hachos trwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.
"Trwy sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y cymorth cywir, a thrwy gadw mewn cysylltiad â nhw ynghylch eu hachos, gallwn helpu i sicrhau ein bod yn edrych ar ôl eu lles yn y tymor hir."
Meddai Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y Fonesig Vera Baird, CF: "Mae'n hollbwysig bod dioddefwyr yn cael gwybod y manylion diweddaraf am eu hachos. Trwy neilltuo swyddog gofal penodedig ar eu cyfer nhw, mae Heddlu Gwent yn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn cefnogaeth trwy gydol eu siwrnai trwy'r broses cyfiawnder troseddol. Dyma enghraifft ysgogol o'r heddlu'n gwrando ar sylwadau dioddefwyr ac yn gwneud newidiadau cadarnhaol i wasanaethau dioddefwyr o ganlyniad i hynny.
“Fel Comisiynydd Dioddefwyr, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi bod dioddefwyr a thystion yn ymddiried yn eu gwasanaethau lleol, a bod ganddynt hyder ynddynt. Gan hynny, rwyf wedi bod yn annog pob comisiynydd heddlu a throsedd i benodi Hyrwyddwr Dioddefwyr lleol - gweithiwr proffesiynol pwrpasol sy'n ymroddedig i ddeall anghenion dioddefwyr yn well a sicrhau bod llais y dioddefwr yn cael ei glywed wrth wneud penderfyniadau a llunio polisïau yn lleol."