Menter newydd i gadw rhedwyr benywaidd yn ddiogel

20fed Chwefror 2025

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ag aelodau Newport Female Runners' Network yn rhan o fenter newydd gan Heddlu Gwent i gadw rhedwyr yn ddiogel.

Mae swyddogion Heddlu Gwent yn gweithio gydag Athletau Cymru i roi cyngor ac arweiniad i fenywod a merched ynghylch sut i gadw'n ddiogel wrth redeg.

Mae swyddogion wedi siarad â mwy na 100 o redwyr o glybiau ledled Gwent am y camau ymarferol y gallan nhw eu cymryd i gadw'n ddiogel, a sut i riportio unrhyw bryderon. Anogir menywod sydd yn profi unrhyw aflonyddu neu ymddygiad bygythiol pan fyddan nhw allan yn rhedeg i gysylltu â'r heddlu a riportio'r mater.

Maen nhw hefyd yn cael eu cyflwyno i aelodau'r tîm plismona lleol ar gyfer eu hardal fel ffordd o chwalu rhwystrau a meithrin perthynas rhwng yr heddlu a chymunedau.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Adeg yma o'r flwyddyn mae llawer o bobl yn dechrau rhedeg i gadw'n heini a chadw'n iach neu er mwyn paratoi ar gyfer rasys yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond mae pryderon am gadw'n ddiogel, neu gael pobl yn aflonyddu arnoch chi, yn gallu bod yn rhwystr go iawn.

“Mae'r fenter newydd yma'n cydnabod bod menywod a merched yn debygol o fod yn fwy agored i niwed na dynion pan fyddan nhw allan yn rhedeg, yn enwedig os ydyn nhw'n rhedeg ar eu pennau eu hunain, ac mae'n rhoi cyngor ac arweiniad syml ynghylch cadw'n ddiogel a riportio unrhyw broblemau a phryderon. 

"Mae Heddlu Gwent yn cysylltu â phob clwb rhedeg ledled Gwent felly, da chi, manteisiwch ar y gwasanaeth yma."

 Dyma bum awgrym Heddlu Gwent i bawb sy'n rhedeg:

  1. Cadwch at lwybrau gyda digon o olau nad ydynt mewn ardaloedd diarffordd
  2. Gwisgwch ddillad llachar a goleuadau er mwyn bod yn hawdd eich gweld
  3. Dywedwch wrth rywun ble'r ydych chi'n mynd a faint o'r gloch y byddwch yn ôl
  4. Rhannwch eich llwybr gyda rhywun, neu gofynnwch i bobl eraill ymuno â chi
  5. Ewch â'ch ffôn symudol gyda chi bob tro

Gellir riportio problemau wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101, anfon neges yn uniongyrchol ar Facebook, neu ar-lein: www.gwent.police.uk/cy-GB/riportio/riportio 

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.