Marcio troswyr catalytig
Yn ddiweddar, ymunais â Heddlu Gwent mewn garej yng Nghoed-duon lle'r oedd tîm Dangos y Drws i Drosedd yn cynnig marcio troswyr catalytig yn fforensig am ddim i fodurwyr i helpu i amddiffyn eu cerbydau.
Dyfeisiau sy’n cael eu ffitio ar bibellau mwg cerbydau yw troswyr catalytig er mwyn lleihau faint o nwyon peryglus a allyrrir. Bydd lladron yn eu targedu yn aml gan fod ynddynt fetelau gwerthfawr ac mewn rhai achosion gellir eu tynnu allan mewn llai na munud.
Gallwch gael eich cerbyd wedi’i farcio yn y sesiynau canlynol:
Dyddiad: Dydd Sul 7 Tachwedd.
Amser: 10am - 3pm.
Lleoliad: MOT Centre Abertyleri, Stryd y Bont, Abertyleri
Dyddiad: Dydd Sadwrn 13 Tachwedd.
Amser: 10am - 3pm.
Lleoliad: Garej Heol Lake, Brynmawr.
Dyddiad: Dydd Mercher 17 Tachwedd.
Amser: 10am - 3pm.
Lleoliad: Garej Heol Rockhill, Pont-y-pŵl.
Yn ogystal â marcio cerbydau i atal lladron, mae’r tîm yn gweithio gyda masnachwyr metel sgrap ledled Gwent hefyd i darfu ar y gadwyn gyflenwi droseddol.
Dim ond un o’r ffyrdd mae tîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent yn gweithio i gadw trigolion yn ddiogel yw hyn.
Mae Dangos y Drws i Drosedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â throseddau meddiangar fel byrgleriaeth a dwyn, ac mae wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus gan heddluoedd yn Lloegr i leihau ail droseddu ac erledigaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Heddlu Gwent.