Mae tymor digwyddiadau'r haf wedi dechrau
14eg Mehefin 2023
Mae tymor digwyddiadau'r haf wedi dechrau ac roedd fy nhîm yn brysur mewn dau ddigwyddiad y penwythnos diwethaf.
Gwnaethant gymryd rhan yn y Diwrnod 999 newydd ym Mharc Bryn Bach, a roddodd gyfle i ymwelwyr weld y gwasanaethau brys wrth eu gwaith. Mae hwn yn ddigwyddiad newydd gwych ac rwy'n gobeithio y daw yn ddigwyddiad rheolaidd yn y calendr.
Aeth y tîm i Ddigwyddiad Mawr Cwmbrân hefyd, sydd bob tro yn un o'n digwyddiadau prysuraf yn ystod y flwyddyn.
Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i ymgysylltu â'r gymuned a galluogi pobl i leisio barn ar faterion lleol. Os oes gennych chi ddigwyddiad yr hoffech i ni fod yn bresennol ynddo, cysylltwch â fy swyddfa.