Mae’r Comisiynydd yn llwyr gefnogi galwadau’r CCHT am strategaeth Covid-19 trawsadrannol ar gam-drin domestig.

28ain Ebrill 2020

Mae'n amlwg bod tan-hysbysu sylweddol ym maes trais yn y cartref eisoes yn ein cymunedau a gall gael effeithiau ofnadwy ar fywydau dioddefwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Dylai’r cartref fod yn lle diogel, ond i lawer nid yw’n ddiogel.

Mae'r cyfyngiadau symud cenedlaethol yn golygu ein bod yn disgwyl i achosion gynyddu a byddwn yn annog unrhyw un sy'n ei ddioddef i beidio â gwneud hynny’n dawel ond i roi gwybod. Mae'r Prif Gwnstabl Pam Kelly a minnau wedi bod yn glir iawn bod Heddlu Gwent, a'n hasiantaethau partner, yma i helpu.

Rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol i helpu'r asiantaethau arbenigol i fynd i’r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth gynnig cyngor a chymorth i gadw dioddefwyr yn ddiogel.