Mae'r Comisiynydd newydd eisiau clywed eich barn
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd newydd Gwent, Jane Mudd, yn gofyn i breswylwyr leisio eu barn ar blismona.
Mae Comisiynydd Mudd, a gafodd ei hethol i'r swydd ym mis Mai, wedi lansio arolwg i roi cyfle i drigolion leisio eu barn ar blismona yn eu cymunedau.
Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i ddatblygu Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, sef y ddogfen strategol y mae'n rhaid i bob comisiynydd heddlu a throsedd ei chynhyrchu i amlinellu'r cyfeiriad strategol ar gyfer eu tymor yn y swydd.
Meddai Comisiynydd Mudd: “Yn ystod fy ymgyrch i fod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, amlinellais y blaenoriaethau canlynol:
• Amddiffyn pobl agored i niwed, mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, a rhoi sylw i droseddau casineb.
• Canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal, cefnogi mentrau sy’n ceisio atal troseddau ieuenctid, cefnogi dioddefwyr.
• Cefnogi ymgyrchoedd i amddiffyn staff manwerthu a lletygarwch yn y gweithle.
• Sicrhau bod Heddlu Gwent yn rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig, a gwasgu'n dynn ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Rwyf yn gwybod o sgyrsiau ar stepen y drws bod y materion yma’n bwysig i bron pawb yn ein cymunedau. Rwyf eisiau dysgu mwy yn awr, a sicrhau bod pob preswylydd yn cael cyfle i leisio barn.
“Treuliwch amser yn cwblhau'r arolwg, lleisio eich barn, a helpu i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau.”