Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn croesawu mwy o amddiffyniad cyfreithiol i blant
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ddydd Gwener 20 Mawrth.
Bydd y Bil newydd yn dileu'r amddiffyniad o 'gosb resymol', sy'n golygu nad yw oedolyn yn gallu hawlio ei fod yn disgyblu plentyn pan gaiff ei gyhuddo o ymosodiad. Bydd y rheolau newydd yn dod i rym ar 21 Mawrth 2022.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rwyf yn falch i weld bod Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw, gan ein gwneud ni'n gyson gyda nifer o wledydd ar draws y byd trwy roi amddiffyniad cyfartal cyfreithiol i blant.
“Mae'n hen bryd i blant yng Nghymru gael yr un amddiffyniad rhag cosbi corfforol ag oedolion, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod addysg a chanllawiau'n cael eu darparu ar gyfer rhieni.
"Nid yw'r gyfraith yn gwneud rhieni'n droseddwyr yn ddiarwybod ac rwy'n dawel fy meddwl na fydd camau gweithredu troseddol yn cael eu cymryd oni bai bod hynny'n angenrheidiol.
"Byddaf yn siarad â Phrif Gwnstabl Gwent i weld pa broblemau ymarferol y gallai Heddlu Gwent eu hwynebu yn sgil hyn ac i ystyried y ffordd orau i'w goresgyn nhw."