Mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi pennu praesept treth y cyngor
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi cytuno i godiad ym mhraesept plismona treth y cyngor o 6.82 y cant ar gyfer 2020/21.
O fis Ebrill 2020 bydd cartref cyffredin yng Ngwent yn talu £1.45 ychwanegol y mis am ei wasanaeth plismona.
Daw'r penderfyniad ar ôl i Heddlu Gwent gyflwyno achos ariannol cadarn ac ar ôl rhaglen 13 wythnos o ymgynghori cyhoeddus gyda thrigolion ledled Gwent.
Ystyriodd y Comisiynydd argymhelliad gan Banel Heddlu a Throsedd Gwent i gadw costau mor isel â phosibl i drigolion hefyd.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Hoffwn sicrhau trigolion na wnaed y penderfyniad hwn ar chwarae bach.
“Yn ogystal â chyflwyno achos ariannol cadarn gan Heddlu Gwent ac argymhellion gan Banel Heddlu a Throsedd Gwent, ymgysylltodd fy swyddfa'n helaeth gyda'r gymuned ledled Gwent, gan sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl wedi cael cyfle i rannu eu barn.
“Nododd dros 66 y cant o'r bobl a ymatebodd eu bod yn fodlon cefnogi codiad o hyd at £2 yn nhreth y cyngor ac rwy'n falch i ddweud fy mod wedi gallu cadw'r ffigwr dan £1.50.
“Rwyf yn dawel fy meddwl y bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi Heddlu Gwent i gynnal ei fuddsoddiad blaenorol mewn recriwtio, ac mewn meysydd sy'n cael blaenoriaeth megis plismona cymdogaeth, amddiffyn plant, cam-drin domestig, treisio, ymosodiadau rhywiol, troseddau casineb, a throseddau difrifol a chyfundrefnol.
“Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn ac i'r Panel Heddlu a Throsedd am ei waith craffu a'i gefnogaeth barhaus.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Rwyf yn ddiolchgar am y gefnogaeth mae Panel Heddlu a Throsedd Gwent a thrigolion Gwent wedi ei dangos wrth gytuno i'r cynnydd hwn. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar adeiladu cymunedau mwy diogel a sicrhau bod trigolion Gwent yn hyderus y byddwn ni yno pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf."