Mae Gwent yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU ond rhaid peidio â bod yn hunanfodlon
“Mae Gwent yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo yn y DU, ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon wrth i'r cyfyngiadau symud lacio.”
Dyma neges Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, yn dilyn cyhoeddi data trosedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer tri mis olaf 2020.
Mae'r ffigyrau a gyhoeddwyd ar gyfer Hydref - Rhagfyr 2020 yn dangos bod gan Went un o'r lefelau isaf o droseddau cofnodedig yn y DU o hyd mewn cymhariaeth ag ardaloedd lluoedd eraill, a bod lefelau trosedd cyffredinol wedi cwympo ers yr un cyfnod yn 2019.
Mae'n cyd-fynd â'r darlun ehangach yn y DU sydd wedi gweld cwymp mewn trosedd cofnodedig ers dechrau'r pandemig Covid-19 ar ddechrau 2020.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Mae gan Went un o'r lefelau isaf o drosedd cofnodedig yn y DU o hyd, gan gynnwys un o'r lefelau isaf o drosedd treisgar.
“Rydym wedi gweld cynnydd cyson yn nifer y troseddau cyffuriau cofnodedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwyf yn dawel fy meddwl bod hyn yn adlewyrchiad o ganlyniadau plismona rhagweithiol ac ymgyrchoedd llwyddiannus gan Heddlu Gwent i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig.
"Yn ystod y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn siarad â thrigolion sydd, wrth reswm, yn pryderu am gynnydd mewn trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth i gyfyngiadau symud lacio.
Hoffwn dawelu meddwl trigolion bod Heddlu Gwent yn barod am hyn gyda mwy o batrolau mewn ardaloedd allweddol ac maent yn cadw cysylltiad agos â busnesau a allai gael eu heffeithio. Mae'r tîm ymgyrch newydd Heddlu Gwent - Dangos y Drws i Drosedd - yn darparu cyngor i gymunedau hefyd ar atal trosedd a diogelu eiddo er mwyn eu helpu i osgoi bod yn darged i drosedd.
"Mae Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel yn y DU, ond fyddwn ni byth yn hunanfodlon. Trwy gydweithio â Heddlu Gwent a phartneriaid byddwn yn parhau i greu Gwent fwy diogel i bawb.”
Dywedodd Ditectif Brif Uwch-arolygydd Nicky Brain, Pennaeth Trosedd Heddlu Gwent:
"Mae cwymp mewn lefelau trosedd cyffredinol yng Ngwent bob amser yn galonogol.
"Rydym wedi ymroi o hyd i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau fel y gallant barhau i fod yn llefydd diogel i fyw a gweithio ynddynt.
“Rydym yn benderfynol o gadw ein strydoedd mor rhydd rhag trosedd â phosibl ac mae ein gwaith yn ddiddiwedd yn hynny o beth.
“Mae'r argyfwng iechyd wedi bod yn heriol o ran y ffordd rydym yn plismona a’r ffordd rydym yn cadw aelodau mwyaf bregus ein cymunedau'n ddiogel.
"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod hwn ac am y rhan maent wedi ei chwarae yn cadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel."