Mae Dyfodol Cadarnhaol yn galluogi pobl ifanc i roi cynnig ar rywbeth newydd
20fed Ebrill 2022
Rwy’n falch o weld pobl ifanc o Flaenafon yn cymryd rhan mewn sesiynau sglefrfyrddio diolch i Skate Academy UK a Dyfodol Cadarnhaol
Mae Dyfodol Cadarnhaol yn galluogi pobl ifanc i roi cynnig ar rywbeth newydd ac mae'n ffordd wych o ddargyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o ymddygiad negyddol.
Ar ymweliadau diweddar â Blaenafon, mynegodd trigolion bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Gwn fod Heddlu Gwent yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau i ymgysylltu â phobl ifanc i helpu i dorri'r cylch.