Mae cyllid ar gael i roi cymorth i blant a phobl ifanc

28ain Awst 2020

Gall sefydliadau yng Ngwent wneud cais am gyfran o £300,000 gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ariannu prosiectau sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd.

Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu ar agor i sefydliadau dielw sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n ymwneud, neu mewn perygl o ddechrau ymwneud, â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd wedi dioddef trosedd.

Mae cyfran o'r arian yn y gronfa wedi cael ei atafaelu gan droseddwyr, a gall sefydliadau wneud cais am symiau o £10,000 i £50,000.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Yn aml, plant a phobl ifanc yw'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ac mae hyn yn gallu golygu eu bod nhw mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Trwy gefnogi sefydliadau sy'n cynnig gweithgareddau cadarnhaol a dargyfeiriol i bobl ifanc, gan eu helpu nhw i ddatblygu eu hyder, sgiliau a dysgu, rydym yn eu helpu nhw i wireddu eu gwir botensial a chreu cymunedau mwy diogel a chydlynus.

Am ragor o wybodaeth am y meini prawf a’r broses ymgeisio ar gyfer Cronfa Gymunedol yr Heddlu ewch i wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 2 Hydref.

 

Astudiaeth achos – Urban Circle

Sefydliad celfyddydau annibynnol ar gyfer ieuenctid yng Nghasnewydd yw Urban Circle.

Ers 2018, mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi rhoi cyllid i brosiect U-Turn Urban Circle sy'n defnyddio'r celfyddydau creadigol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol sy'n effeithio ar bobl ifanc.

Mae'r cyllid o ryw £50,000 y flwyddyn gan Gronfa Gymunedol yr Heddlu'n talu am arweinydd prosiect, swyddog ymgysylltu a gweithiwr ieuenctid i gynnal cyfres o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Yn ogystal â chael profiad yn cynllunio digwyddiadau mawr, mae'r bobl ifanc sy'n rhan o brosiect U-Turn yn ennill cymwysterau mewn meysydd megis gwaith ieuenctid, chwaraeon, stiwardio a chymorth cyntaf, sy'n eu helpu nhw i gael gwaith cyflogedig.

Mae Urban Circle wedi cynnal rhai digwyddiadau nodedig ar adegau allweddol yn y flwyddyn. Diolch i ddigwyddiad Calan Gaeaf yn 2018 bu cwymp anferth yn nifer y digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gafodd eu riportio yng Nghasnewydd y noson honno a llwyddodd 'Gŵyl Haf' dau ddiwrnod yn Nhŷ Tredegar yn 2019 i ddenu cannoedd o bobl ifanc a theuluoedd o bob rhan o Went.

Dywedodd Loren Henry, cyd-sylfaenydd Urban Circle: "Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu wedi bod yn amhrisiadwy i ni.

"Mae wedi ein galluogi ni i roi cymorth i gannoedd o bobl ifanc yng Nghasnewydd i ddysgu, sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd, magu hyder ac ennill cymwysterau. Yn bwysicach na dim, mae wedi ein galluogi ni i greu cyfleoedd i'r bobl ifanc ganolbwyntio ar weithgareddau cadarnhaol a chreadigol a rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymunedau."