Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn croesawu diwygiad i'r Bil Cam-drin Domestig
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu diwygiad i'r Bil Cam-drin Domestig sy'n cydnabod plant o fewn y diffiniad statudol o gam-drin domestig.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rydym yn gwybod bod tyfu i fyny ar aelwyd gamdriniol yn gallu gwneud difrod parhaol i blentyn; gan effeithio'n sylweddol ar ei gyfleoedd bywyd a chanlyniadau bywyd.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yng Ngwent yn unig, roedd dros 5000 o blant mewn aelwydydd lle cafodd yr heddlu eu hysbysu am ddigwyddiad o gam-drin domestig.
"Mae plant sy'n tyfu i fyny dan yr amodau hyn yn dioddef cymaint â’r bobl sy'n cael eu cam-drin yn uniongyrchol, ac rwyf yn croesawu'r diwygiad hwn sy'n cydnabod hyn yn ffurfiol o fewn y gyfraith.