Mae amser o hyd i chi leisio barn ynglŷn â phlismona
Mae amser o hyd i chi leisio barn ynglŷn â phlismona yng Ngwent, cyn i arolwg Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gau ar y 10fed o Ionawr.
Hoffai Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wybod beth yw barn trigolion ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys eu boddhad gyda phlismona lleol ac ymateb Heddlu Gwent i Covid-19.
Mae eisiau clywed barn pobl ar gyllid yr heddlu hefyd er mwyn llywio ei benderfyniad wrth bennu'r rhan blismona o daliadau treth y cyngor trigolion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwyf yn gwybod ei bod yn galed ar lawer o bobl ar hyn o bryd, yn arbennig pobl y mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eu swyddi a'u bywoliaeth. Fodd bynnag, mae'r pandemig hwn wedi dangos pa mor eithriadol o bwysig yw plismona i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.
"Mae sefyllfa ariannol plismona yn y dyfodol yn parhau i fod yn heriol. Mae cyllid Heddlu Gwent gan y llywodraeth wedi gostwng yn sylweddol ers 2010. Mae wedi gorfod gwneud bron i £50 miliwn o arbedion a rhaid iddo arbed £5 miliwn arall erbyn 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r galw ar blismona wedi cynyddu a bydd yn parhau i gynyddu.
"Mae ein gwaith cynllunio ariannol tymor canolig yn dweud wrthym y byddai codiad o £2 y mis ym mhraesept treth y cyngor ar gyfer eiddo band D arferol yn galluogi Heddlu Gwent i gynnal gwasanaethau ar y lefelau presennol ar gyfer y flwyddyn nesaf.
"Mae hwn yn benderfyniad anhygoel o anodd i orfod ei wneud, yn arbennig yng nghanol pandemig, ond mae'n un y mae'n rhaid i mi ei wneud. Mae gwrando ar bobl Gwent yn hynod o bwysig i mi a, chyn i mi wneud unrhyw benderfyniad ar gyllideb yr heddlu ar gyfer 2021/22, hoffwn glywed eich barn chi. Cwblhewch yr arolwg a lleisiwch eich barn."