Mae amser o hyd i chi leisio barn ynglŷn â chyllid yr heddlu

23ain Rhagfyr 2024

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, yn gofyn i drigolion am eu barn ynglŷn â chyllid yr heddlu a materion eraill yn ymwneud â phlismona.

Comisiynwyr yr heddlu a throsedd sy'n gyfrifol am bennu'r swm mae trigolion yn ei dalu tuag at blismona bob mis. Mae bron i 40 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent o £173 miliwn yn dod o daliadau'r dreth gyngor leol.

Er mwyn gwneud y penderfyniad hwn, mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, y setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth y DU, cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, a fforddiadwyedd i bobl leol.

I leisio eich barn cyn i'r arolwg gau ddydd Sul 12 Ionawr, ewch i https://bit.ly/4etVHWS

Mae'r arolwg ar gael mewn fformatau eraill ar gais gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd trwy e-bostio commissioner@gwent.police.uk neu drwy ffonio 01633 642200.