Llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth newydd i amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi strategaeth newydd i helpu i amddiffyn plant rhag pob ffurf ar gam-drin rhywiol.
Mae cynlluniau'n cynnwys buddsoddi yn y Gronfa Ddata Delweddau Cam-drin Plant a defnyddio dulliau newydd i ddarganfod tramgwyddwyr yn gyflymach, gan helpu i amddiffyn swyddogion rhag bod yn agored i ddelweddau anweddus yn fynych.
Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i rieni wirio gyda'r heddlu os oes gan rywun gofnod troseddol am droseddau rhywiol yn erbyn plant, a bydd cyflwyno Bil Diogelwch Ar-lein yn sicrhau bod cwmnïau technoleg yn cael eu dwyn i gyfrif am gynnwys niweidiol ar eu gwefannau.
Bydd hyn yn ychwanegol at orchmynion sifil i atal ail droseddu a dedfrydau mwy cadarn i droseddwyr treisgar a rhywiol difrifol.
Dywedodd Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu: "Rydym yn croesawu'r strategaeth newydd gan Lywodraeth y DU a fydd yn ein helpu ni i gyd i gadw mwy o blant yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol.
"Daw'r Bil Diogelwch Ar-lein ar adeg dyngedfennol pan rydym yn gwybod bod risgiau ar-lein wedi cynyddu o ran pobl yn meithrin perthynas amhriodol a cham-drin plant am fod plant gartref o'r ysgol ac yn treulio mwy o amser ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu ni i herio'r cwmnïau mawr sy'n cynnal y platfformau hyn i wneud mwy i amddiffyn plant.
"Mae hefyd yn dda clywed bod lles swyddogion sy'n gweithio ar yr achosion hyn yn cael ei ystyried hefyd gan fod bod yn agored i'r deunydd hwn yn fynych, dros gyfnod hir, yn gallu cael effeithiau dinistriol ar eu hiechyd meddwl.
"Rydym eisoes yn flaenllaw yng Nghymru yn y ffordd rydym yn ymateb i gam-drin plant yn rhywiol trwy Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a bydd y strategaeth newydd hon trwy'r DU gyfan yn rhoi mwy o ffyrdd i ni eu defnyddio i fynd i'r afael â'r troseddau erchyll hyn."