Llywodraeth y DU yn cyhoeddi hwb ariannol sylweddol i ddioddefwyr
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei fod am roi £40 miliwn o gyllid ychwanegol i wasanaethau sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr treisio a cham-drin domestig.
Daw'r pecyn cyllid, a fydd ar gael o fis Ebrill, ar adeg pan mae elusennau a gwasanaethau cymorth wedi nodi cynnydd anferth mewn ceisiadau am gymorth ers y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020.
Mae'n cynnwys:
- £20.7 miliwn i gefnogi gwasanaethau trais rhywiol a cham-drin domestig yn y gymuned.
- £16 miliwn i recriwtio mwy o gynghorwyr trais rhywiol a cham-drin domestig annibynnol.
- £2 filiwn ar gyfer sefydliadau arbenigol sy'n helpu dioddefwyr BAME, LGBTQ+ neu anabl.
- £1.3 miliwn ar gyfer gwasanaethau o bell ac ar-lein.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rydym wedi bod yn rhybuddio Llywodraeth y DU am y pwysau mae gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr wedi bod yn eu hwynebu yn ystod y cyfyngiadau symud ers amser ac rwyf yn falch eu bod yn gwrando ar ein pryderon ni a'n partneriaid.
"Bydd y cyllid hwn yn rhoi hwb y mae angen taer amdano i'r gwasanaethau hyn sy'n gweithio gyda rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
"Mae Heddlu Gwent a gwasanaethau cymorth yma yng Ngwent yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i ddioddefwyr ond rydym yn gwybod nad yw pob un o'r troseddau erchyll hyn yn cael eu riportio yn ystod y cyfyngiadau symud. Os ydych chi wedi dioddef, codwch eich llais a riportiwch y mater. Mae help ar gael.
“Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn ystod yr wythnosau nesaf i helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau cymorth yma yng Ngwent yn gallu derbyn eu cyfran deg o'r cyllid."
Gall dioddefwyr riportio digwyddiadau i Heddlu Gwent ar y dudalen Facebook, trwy ffonio 101 neu drwy ffonio 999 mewn argyfwng.
Mae cymorth ar gael gan wasanaethau cymorth sy'n ymdrin yn benodol â cham-drin a thrais rhywiol hefyd.
Mae Llwybrau Newydd yn darparu gwasanaethau cymorth i bobl sydd wedi dioddef treisio a cham-drin rhywiol, a gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol.
Gwefan: www.newpathways.org.uk
E-bost: enquiries@newpathways.org.uk
Ffôn: 01685 379 310
Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn darparu gwasanaethau cymorth ledled Gwent i bobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gwefan: https://cyfannol.org.uk/contact
Ffôn: 01495 742052
Mae Canolfan Dioddefwyr Connect Gwent yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth ac nid oes rhaid i chi fod wedi riportio trosedd i'r heddlu i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.