Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cyllid i gynyddu'r defnydd o offer Taser
16eg Ionawr 2020
Rwy'n croesawu'r cyfle i geisio am gyllid gan y llywodraeth a fyddai'n helpu i gefnogi cynlluniau presennol Heddlu Gwent i gynyddu nifer y swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio Taser yn y llu.
Fodd bynnag, mae'n bwysig sylweddoli mai ar gyfer offer yn unig mae'r cyllid hwn ac y bydd rhaid i luoedd heddlu dalu am hyfforddiant a chostau cysylltiedig allan o'u cyllidebau eu hunain.
Erbyn diwedd mis Mawrth 2020 bydd 320 o swyddogion wedi'u hyfforddi i ddefnyddio Taser yn Heddlu Gwent.
Bydd diogelwch y cyhoedd a swyddogion Heddlu Gwent yn flaenllaw mewn unrhyw benderfyniad ynghylch y cais am arian.
Darllenwch gyhoeddiad y Swyddfa Gartref yma.