Llywodraeth y DU i ddiweddaru’r Cod Dioddefwyr
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiweddaru’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr.
Y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr yw dogfen y Llywodraeth sy’n amlinellu’r hyn y gall dioddefwyr ei ddisgwyl gan sefydliadau megis yr heddlu a’r llysoedd, o’r eiliad y maent yn riportio trosedd nes bydd yr achos llys wedi gorffen.
Mae diweddaru’r cod wedi ei wneud yn haws i’w ddeall ac mae’n esbonio’r gwasanaethau y gall dioddefwyr ddisgwyl eu derbyn yn fwy clir.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Yn aml, mae dioddefwyr trosedd yn fregus iawn felly mae unrhyw beth sy’n symleiddio eu profiad gyda’r system cyfiawnder troseddol yn beth da.
“Comisiynwyr yr heddlu a throseddu sy’n gyfrifol am gomisiynu llawer o’r gwasanaethau mae dioddefwyr trosedd yn eu derbyn ac mae hyn yn siŵr o fod yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i ddioddefwyr.
“Fodd bynnag, mae gwybodaeth am y Cod, a dealltwriaeth ohono, yn dal yn brin ymysg dioddefwyr ac, er y gallwn chwarae rhan yn lleol i hybu ymwybyddiaeth o hawliau dioddefwyr, hoffwn weld Llywodraeth y DU yn cefnogi’r ddogfen hon gydag ymgyrch wybodaeth ehangach i helpu pobl i ddeall yn llawn pa wasanaeth y gallant ddisgwyl ei dderbyn os ydynt yn dioddef trosedd.”