Llongyfarchiadau i Brif Uwch-arolygwyr newydd Heddlu Gwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu penodiad pedwar Prif Uwch-arolygydd newydd yn Heddlu Gwent.
Dywedodd: “Hoffwn longyfarch pedwar Prif Uwch-arolygydd newydd Heddlu Gwent.
“Mae gan Brif Uwch-arolygydd Nicky Brain a Phrif Uwch-arolygydd Ian Roberts dros 20 mlynedd o brofiad yr un yn gweithio i Heddlu Gwent. Mae fy swyddfa wedi gweithio'n agos gyda'r ddau swyddog ac maen nhw bob amser wedi gwneud argraff dda arnaf gyda'u hymroddiad i wasanaethu pobl Gwent hyd eithaf eu gallu.
"Mae Prif Uwch-arolygydd Tom Harding o Heddlu Gorllewin Mersia a Phrif Uwch-arolygydd Mark Horbrough o Heddlu De Cymru yn ymuno â nhw. Mae'r ddau swyddog wedi ennill clod gan eu lluoedd ac maen nhw'n dod â phrofiad helaeth gyda nhw i'r rolau newydd hyn. Rwyf yn siŵr y byddant yn gaffaeliad enfawr i Heddlu Gwent yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."