Llongyfarch cadetiaid yr heddlu
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi llongyfarch y grŵp diweddaraf o gadetiaid Heddlu Gwent a orffennodd eu hyfforddiant yn swyddogol yr wythnos yma.
Fel cadetiaid yr heddlu, mae plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu am blismona, cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder, a rhoi cymorth i'r heddlu mewn digwyddiadau cymunedol.
Mae unedau cadetiaid yng Nghasnewydd, Cwmbrân, Y Fenni, Caerffili a Glynebwy.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Llongyfarchiadau i'r holl gadetiaid sydd wedi gorffen eu hyfforddiant yr wythnos yma. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld llawer ohonyn nhw'n mynd ymlaen i ddilyn gyrfa mewn plismona, ond bydd y sgiliau maen nhw wedi eu dysgu yn ystod eu cyfnod fel cadetiaid yn ddefnyddiol iddyn nhw ym mha bynnag yrfa maen nhw'n ei dewis yn y dyfodol.
“Mae bod yn un o gadetiaid yr heddlu'n ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned, meithrin eich sgiliau, gwneud ffrindiau a chael hwyl, ac rwyf eisiau annog pobl ifanc sydd â diddordeb yn yr heddlu i gymryd golwg ar beth mae'n gallu ei gynnig i chi."
I gael mwy o wybodaeth am gynllun cadetiaid Heddlu Gwent ewch i wefan Heddlu Gwent.