Llinellau Cyffuriau: Adnabod yr Arwyddion
Mae Heddlu Gwent yn gofyn yn daer ar y cyhoedd i adnabod arwyddion gangiau Llinellau Cyffuriau.
Llinellau Cyffuriau yw'r enw a roddir i rwydweithiau cyffuriau sy'n cael eu gweithredu gan gangiau troseddol y tu allan i'w dinasoedd a'u trefi eu hunain.
Mae Cadetiaid Heddlu Gwent wedi cynhyrchu fideo ar sut i adnabod yr arwyddion amlwg ac mae wedi cael ei rannu gydag ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled Gwent.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae Llinellau Cyffuriau yn broblem gynyddol yn ein cymunedau. Mae'n gymhleth, yn gudd yn aml, ac mae'n targedu rhai o'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas. Mae'n rhan o'r darlun ehangach o droseddau difrifol a threfnedig sy'n effeithio ar fwy o ddinasyddion y DU nac unrhyw fygythiad arall i ddiogelwch gwladol.
"Mae Cadetiaid Heddlu Gwent wedi gwneud gwaith gwych yn creu'r fideo hwn ac rwy'n gobeithio y bydd yn helpu pobl ifanc eraill i fod yn ymwybodol o'r broblem hon, ac i wybod beth i'w wneud a phwy i droi atynt os ydynt yn gweld arwyddion Llinellau Cyffuriau yn eu cymunedau eu hunain."
Gall unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am weithgarwch sy’n gysylltiedig â Llinellau Cyffuriau ei riportio i Heddlu Gwent trwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng.
Fel arall, gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gall pobl ifanc roi gwybodaeth yn ddienw ar Fearless.org.
Beth yw'r prif arwyddion y gallai person ifanc fod mewn perygl?
- Ar goll neu'n absennol o'r ysgol/cartref trwy'r amser.
- Teithio ar ei ben ei hun i lefydd pell o gartref.
- Derbyn anrhegion - llawer o arian neu ffonau symudol newydd.
- Derbyn mwy o negeseuon nag arfer.
- Cario neu werthu cyffuriau.
- Cario arfau neu'n adnabod pobl sy'n gallu cael gafael ar arfau.
- Mewn perthynas neu'n treulio amser gyda phobl sy'n hŷn/yn ei reoli.
- Ymddangos yn dawedog neu fel pe bai ganddo rywbeth i'w guddio.
- Methu esbonio anafiadau ac ymddangos yn ofnus neu'n ofidus.