Lleisiwch eich barn ynglŷn â chyllid yr heddlu yng Ngwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, yn gofyn am farn trigolion ynglŷn â chyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Comisiynwyr yr heddlu a throsedd sy'n gyfrifol am bennu'r swm mae trigolion yn ei dalu tuag at blismona bob mis trwy'r dreth gyngor. Mae bron i 40 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent o £173 miliwn yn dod o daliadau'r dreth gyngor lleol.
Er mwyn gwneud y penderfyniad hwn, mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, y setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth y DU, cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, a fforddiadwyedd i bobl leol.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: Mae hwn yn benderfyniad anodd ar unrhyw adeg, yn arbennig yn awr pan mae cymaint o bobl yn ein cymunedau mewn trafferthion ariannol. Fodd bynnag, heb godiad ym mhraesept y dreth gyngor bydd rhaid gwneud arbedion ariannol sylweddol.
"Cyn i mi wneud penderfyniad, rwyf am roi cyfle i chi leisio eich barn, lleisio unrhyw bryderon sydd gennych chi, neu gynnig sylwadau. Rwyf yn addo y bydd eich sylwadau'n cael eu darllen a'u hystyried, ac y byddant yn dylanwadu ar fy mhenderfyniad.
“Treuliwch ychydig o funudau'n cwblhau'r arolwg yma a lleisio eich barn.”
I leisio eich barn cyn i'r arolwg gau ddydd Sul 9 Ionawr, ewch i https://bit.ly/4etVHWS