Lleisiwch eich barn ynglŷn â chyllid yr heddlu yng Ngwent
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn am farn trigolion ynglŷn â chyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Comisiynwyr yr heddlu a throsedd sy'n gyfrifol am bennu'r swm mae trigolion yn ei dalu tuag at blismona bob mis. Mae bron i 40 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent o £173 miliwn yn dod o daliadau treth y cyngor lleol yn awr.
Er mwyn gwneud y penderfyniad hwn, mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, y setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth y DU, cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, a fforddiadwyedd i drethdalwyr lleol.
Meddai Jeff Cuthbert: “Mae ansicrwydd economaidd parhaus, yn arbennig o ran cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn golygu bod sefyllfa ariannol plismona yn y dyfodol yn dal yn ansicr ac yn hynod o heriol. Mae galw dyddiol yn cynyddu, costau yn codi, ac mae'r arian sydd ar gael i amddiffyn cymunedau'n mynd yn llai. Ar yr un pryd mae costau byw yn gwneud bywyd yn galed i'n trigolion.
“Ni fyddwn yn gwybod faint o arian bydd Llywodraeth y DU yn ei roi i heddluoedd tan fis Rhagfyr 2022. Byddaf yn parhau i geisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU i gael rhagor o arian ar gyfer plismona, ond ni allwn aros tan hynny i ddechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
“Mae ein gwaith cynllunio ariannol yn dweud wrthym ni mai cynnydd o £25 y flwyddyn yn nhreth y cyngor ar gyfer eiddo arferol yw ein siawns orau o geisio cynnal lefelau gwasanaeth presennol. Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn bydd diffyg sylweddol y bydd rhaid ei gydbwyso gydag arbedion.
“Mae hwn bob amser yn benderfyniad anodd ac ni fyddaf yn ei wneud ar chwarae bach. Eleni, mae'n fwy anodd nac erioed a chyn i mi wneud penderfyniad rwyf am i drigolion leisio eu barn."
Mae cyllid Heddlu Gwent gan y llywodraeth wedi gostwng yn sylweddol ers 2010. Mae wedi gorfod gwneud bron i £52.8 miliwn o arbedion a rhaid iddo arbed rhwng £19.8 a £25.8 miliwn erbyn 2027.
Cwblhewch yr arolwg
Mae'r arolwg ar gael mewn fformatau eraill ar gais gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd trwy e-bostio commissioner@gwent.police.uk neu ffonio 01633 642200.