Lleisiwch eich barn ynghylch amcanion drafft y cynllun cydraddoldeb strategol
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (Swyddfa'r Comisiynydd) a Heddlu Gwent yn gofyn i drigolion a ydyn nhw'n cytuno â phedwar amcan drafft eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol sydd ar ddod.
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn seiliedig ar ganllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae'n dwyn gwybodaeth am y sefydliad, ei ymrwymiad i gydraddoldeb a gwybodaeth arall sy'n cefnogi'r amcanion cydraddoldeb at ei gilydd.
Nod yr amcanion drafft yw rhoi cymorth i bobl fregus, sicrhau bod gweithgareddau plismona'n cael eu cynnal yn gyfreithlon ac yn gymesur, a meithrin cydberthynas gadarnhaol rhwng cymunedau a phlismona.
Gall trigolion leisio barn trwy gwblhau arolwg ar-lein, sydd ar gael ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Swyddfa'r Comisiynydd: https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=158497156022
Mae copïau papur ar gael hefyd os gwneir cais amdanynt.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert:
“Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth mae fy swyddfa i a Heddlu Gwent yn ei wneud. Ei nod yw herio gwahaniaethu ac mae'n gysylltiedig â'm Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gwent, sy'n amlinellu blaenoriaethau plismona lleol.
Rwy'n cydnabod y gellid gwneud mwy i ganfod y troseddau mae pobl yn eu profi. Mae'n ddyletswydd arnom ni i ddarparu'r cymorth cywir. Mae lleihau'r niwed mae pobl yn ei brofi, yn arbennig pobl sy'n fregus, mor bwysig.
Hoffwn glywed sut mae trigolion yn teimlo am yr amcanion cydraddoldeb arfaethedig. Bydd yn cymryd ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg syml. Mae ar gael ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol, a bydd fy nhîm yn ei rannu gyda sefydliadau a grwpiau ledled Gwent hefyd i sicrhau bod pobl yn cael cyfle i leisio eu barn.”
I ofyn am gopi papur, ffoniwch 01633 642 200 neu e-bostiwch commissioner@gwent.pnn.police.uk