Lleisiwch eich barn mewn arolwg diogelwch ar y ffyrdd cenedlaethol
Mae Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (APCC) wedi lansio arolwg cenedlaethol i ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn deall eu canfyddiad o ddiogelwch a gorfodi'r gyfraith ar y ffyrdd.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yw arweinydd diogelwch ar y ffyrdd APCC. Dywedodd: "Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn adolygu plismona ar y ffyrdd ac yn ceisio deall sut bydd gorfodi cyfraith traffig yn edrych yn y dyfodol.
"Bydd yr ymatebion i'r arolwg hwn yn ein helpu ni i ddeall barn y cyhoedd ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn well, ac yn ein helpu ni i chwarae rhan weithredol yn yr adolygiad hwn, felly hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i gyfrannu ato."
Gall trigolion ddefnyddio'r arolwg i leisio eu barn tan 5pm ddydd Mercher 30 Medi.
Cwblhewch yr arolwg.