Lansio llyfr a ysgrifennwyd gan blant ysgol yn llyfrgelloedd Caerffili
Mae llyfr a ysgrifennwyd gyda phlant o Barc Lansbury bellach ar gael yn llyfrgelloedd Caerffili.
Roedd y llyfr, Llamas, litter picking and the mini police, yn gydweithrediad rhwng yr awdur Mike Church, plant o Ysgol Gynradd St James a Heddlu Gwent. Mae'r stori yn ymwneud â merch ifanc sy'n ymuno ag uned Heddlu Bach ei hysgol ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd gwneud y peth iawn a helpu'r gymuned.
Fe'i cyhoeddwyd gan PETRA Publishing o Fargod yn 2019 ond bydd nawr ar gael i blant ledled Caerffili ei ddarllen am y tro cyntaf.
Dosbarthwyd y llyfrau i'r llyfrgell gan Heddlu Bach o Ysgol Gynradd St James.
Daeth y syniad ar gyfer y prosiect yn wreiddiol gan y swyddog cymorth cymunedol Sarah Barbour sy'n gyfrifol am ward St James. Dywedodd: "Y syniad oedd cael y plant i feddwl a siarad am eu cymuned, a sut y gallai eu gweithredoedd nhw effeithio ar eraill.
"Roedd y llyfr yn llafur cariad go iawn ac mae'n wych y bydd nawr ar gael i blant ledled Caerffili ei fwynhau."
Cafodd cynllun yr Heddlu Bach ei gychwyn yng Ngwent gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, ac erbyn hyn mae dros 150 o unedau Heddlu Bach mewn ysgolion ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rwy'n hynod falch fy mod wedi cychwyn cynllun yr Heddlu Bach. Mae'n helpu i chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth rhwng plant a'r heddlu, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i blant fagu hyder a dysgu sgiliau newydd.
"Rwy'n gobeithio y bydd plant yng Nghaerffili yn darllen y llyfr ac yn cael eu hysbrydoli i ymuno ag uned yr Heddlu Bach yn eu hysgolion eu hunain."