Lansio Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yng Ngwent
13eg Tachwedd 2023
Roeddem yn falch i gefnogi lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yng Ngwent y penwythnos yma.
Dyma ddathliad blwyddyn gyfan Race Council Cymru i gydnabod hanes diwylliannol a threftadaeth gyfoethog pobl dduon yng Nghymru, yn ogystal â’u llwyddiannau cyfredol.
Mae comisiynwr heddlu a throsedd Cymru yn falch i noddi’r rhaglen yma o ddigwyddiadau sy’n cydnabod y cyfraniadau mae pobl dduon wedi eu gwneud i Gymru a’r DU dros lawer o genedlaethau.
Roedd y digwyddiad lansio, a gynhaliwyd yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn ddathliad gwych o gelf, diwylliant a hanes pobl dduon yng Ngwent, ac edrychaf ymlaen at weld mwy gan Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn ystod y flwyddyn nesaf.