Lansio Apêl Pabi
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd â chyn-filwyr ac aelodau'r gymuned leol yng Nghoed-duon ddydd Iau i lansio Apêl Pabi eleni yng Ngwent.
Yn y digwyddiad, a gynhaliwyd gan gangen Coed-duon a'r Rhanbarth o'r Lleng Prydeinig Brenhinol, daeth cyn-filwyr, plant ysgol, ac aelodau'r gymuned at ei gilydd i nodi dechrau'r apêl, sy'n codi miliynau o bunnau bob blwyddyn i gefnogi'r gymuned lluoedd arfog.
Dechreuodd y digwyddiad gyda gwasanaeth byr yn yr eglwys ac yna cafwyd gorymdaith trwy'r dref. Llenwodd aelodau'r cyhoedd y strydoedd i ddangos eu cefnogaeth, a daeth y digwyddiad i ben gyda dau funud o dawelwch.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae'r Apêl Pabi yma'n symbol pwerus o gofio, o wydnwch ac o ddiolch. Mae'n amser pan mae cymunedau'n dod at ei gilydd i anrhydeddu dewrder ac aberth y rhai sydd wedi gwasanaethu, ac sy'n parhau i wasanaethu, ein gwlad.
"Yn ogystal â chofio, mae'r Apêl Pabi'n rhoi cymorth hollbwysig i aelodau'r gymuned lluoedd arfog, yn sicrhau bod help a chefnogaeth ar gael pan fydd pobl ei angen.
"Dymunaf bob llwyddiant i'r Lleng Prydeinig Brenhinol yn y misoedd nesaf ac edrychaf ymlaen at sefyll ochr yn ochr â'n cymunedau ym mis Tachwedd wrth i ni dalu teyrnged i'r dynion a menywod arbennig sy'n gweithio mor galed, mewn cymaint o berygl, i'n cadw ni'n ddiogel.