Jeff Cuthbert wedi ei ail ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent
Mae Jeff Cuthbert wedi cael ei ethol i wasanaethu fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwent am ail dymor.
Derbyniodd Mr Cuthbert, ymgeisydd Llafur a Chydweithredol, a gafodd ei ethol gyntaf yn 2016, 92,616 o bleidleisiau.
Bydd yn parhau yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu am dymor o dair blynedd arall, gyda chymorth Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Eleri Thomas MBE.
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwyf wrth fy modd i allu gwasanaethu Gwent fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am dymor arall a hoffwn ddiolch o galon i bawb a roddodd o'u hamser i bleidleisio yn yr etholiad.
"Rhaid i mi ddiolch hefyd i'm dirprwy, Eleri Thomas, yr wyf yn bwriadu ei hail benodi yn Ddirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a'm cydweithwyr yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am eu gwaith dros y pum mlynedd diwethaf.
"Rydym wedi gweithio gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent a phartneriaid allweddol i gyflawni llawer dros y tymor diwethaf ac rwyf yn hynod o falch o hynny. Gyda'n gilydd rydym wedi gweithio i sicrhau ein bod yn amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, meithrin gwell cydlyniant yn ein cymunedau, a sicrhau bod gan swyddogion a staff Gwent yr adnoddau angenrheidiol i amddiffyn a thawelu meddwl ein trigolion hyd eithaf eu gallu.
"Rwyf yn gwybod bod llawer i'w wneud o hyd ac yn ystod yr wythnosau nesaf byddaf yn dechrau gweithio ar fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer Gwent a fydd yn amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf."
Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae Mr Cuthbert wedi bod yn gefnogol iawn i Heddlu Gwent ond mae hefyd wedi chwarae rôl hollbwysig yn craffu ar ein gwaith, sydd wedi ein helpu ni i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i drigolion.
“Mae’n ddyn sydd â phrofiad helaeth, mae’n onest ac yn broffesiynol iawn o ran deall swyddogaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a fy nwyn i i gyfrif.
“Rwyf yn edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef dros y tair blynedd nesaf i wneud ein gorau i gymunedau Gwent.”