Hysbysu am droseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghasnewydd
29ain Ionawr 2020
Mae Crimestoppers wedi lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth newydd i helpu i atal troseddau difrifol a chyfundrefnol sy’n cael eu cyflawni gan gangiau troseddol yng Nghasnewydd.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Gangiau troseddau difrifol a chyfundrefnol yw'r bygythiad mwyaf i ddiogelwch y DU heddiw. Maen nhw'n poeni pobl fregus ac yn gwneud niwed ofnadwy i'n cymunedau.
“Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth a fydd yn ein helpu ni i fynd i'r afael â'r gangiau hyn, hysbyswch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu drwy gyfrwng y ffurflen ddienw ar-lein.”