Hyfforddiant lles anifeiliaid
28ain Mehefin 2022
Mae aelodau fy nhîm wedi cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddiant gyda'r RSPCA a fydd yn eu galluogi nhw i gefnogi ein gwirfoddolwyr lles anifeiliaid i fonitro iechyd a lles cŵn Heddlu Gwent.
Mae gwirfoddolwyr lles anifeiliaid yn ymweld yn rheolaidd â chŵn heddlu Gwent i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn iawn a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni pan fyddant yn y gwaith a gartref.
Cawsant eu cyflwyno ar ôl i farwolaeth ci heddlu yn Essex ym 1997 gael llawer o sylw yn y wasg a’r cyfryngau.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn dod â mwy o gadernid i'r tîm ac yn ein helpu ni i sicrhau bod cŵn Heddlu Gwent yn cael gofal o'r safon uchaf.