Hwyl hanner tymor
Mae fy nhîm wedi bod yn brysur yr wythnos hon yn cefnogi Heddlu Gwent, partneriaid a’n cymunedau drwy gydol gwyliau hanner tymor.
Gwnaethom gefnogi digwyddiad Cast neu Geiniog prysur iawn ym Margoed Morrisons, a drefnwyd gan Rwydwaith Rhieni Caerffili. Gwnaeth ein partneriaid addurno cistiau eu ceir ac roedd y plant yn cael eu hannog i chwarae cast neu geiniog ar bob car, gan ddysgu mwy am bob sefydliad a chael danteithion arbennig gyda phob ymweliad. Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn gyda channoedd o blant yn cymryd rhan yn ystod y prynhawn.
Bu’r tîm hefyd yn rhedeg stondin yn yr ‘Arswyd ar y Sgwâr’ blynyddol ym Mrynmawr, lle mae teuluoedd yn cael eu hannog i ymweld â busnesau, sefydliadau a stondinau drwy’r dref. Bu tîm plismona yn y gymdogaeth Brynmawr hefyd yn cymryd rhan a gwnaed gwaith rhagorol gan y tîm wrth i aelodau drawsnewid gorsaf yr heddlu’n ffau bwystfilod arswydus. Mae’r digwyddiad hwn bob amser yn boblogaidd iawn ac mae cannoedd o deuluoedd yn dod i gymryd rhan.
Rhoddodd y ddau ddigwyddiad gyfle i blant fwynhau cast neu geiniog yn ddiogel, heb darfu ar aelodau o'r gymuned sy’n agored i niwed y gall Calan Gaeaf fod yn gyfnod gofidus iddynt.
Gwnaethom hefyd ymuno â'n partneriaid a ariennir, Positive Futures, mewn sesiwn allgymorth ym Mhilgwenlli yng Nghasnewydd gyda'r nod o addysgu plant am beryglon tân gwyllt. Cymerodd plant a phobl ifanc ran mewn gwahanol chwaraeon a gweithgareddau yn ystod y sesiwn, tra bod staff yn trafod risgiau defnyddio tân gwyllt yn anghyfreithlon.
Gall Calan Gaeaf a noson tân gwyllt fod yn rhai o nosweithiau prysuraf y flwyddyn i’r gwasanaethau brys.
Yn draddodiadol, mae Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweld galw cynyddol o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio tân gwyllt a thanau a gychwynnwyd yn fwriadol.
Roeddwn yn falch o weld cynifer o ddigwyddiadau wedi'u trefnu yn caniatáu i'r plant fwynhau'r ddau achlysur hyn yn ddiogel.