Hwyl hanner tymor
25ain Chwefror 2022
Yr wythnos ddiwethaf ymunodd fy nhîm gyda’n partneriaid Dyfodol Cadarnhaol ar gyfer sesiwn chwaraeon dros dro yn Ysgol Gynradd Llanmartin yng Nghasnewydd.
Roedd y sesiwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng tîm Dyfodol Cadarnhaol, yr ysgol, a Theuluoedd yn Gyntaf, ac ymunodd llawer o blant yn yr hwyl yn ystod y dydd.
Yn ogystal â chynnig ymarfer corff i blant a phobl ifanc, a rhoi rhywbeth difyr iddyn nhw ei wneud yn ystod y gwyliau, mae sesiynau fel hyn yn pwysleisio ymddygiad da ac yn gyfle i gynnig cymorth i'r plant a phobl sydd ei angen.