Hwnt ac yma
22ain Rhagfyr 2022
Yr wythnos hon rydym ni wedi bod yn ymweld â chymunedau yn Nhrecelyn, Tŷ-du a Brynbuga i siarad â thrigolion.
Yn ogystal â thrafod materion lleol, rydym ni hefyd wedi bod yn cynnal arolwg byr i fy helpu i ddeall barn pobl am gyllideb yr heddlu ar gyfer 2023/24.
Fy nghyfrifoldeb i yw pennu faint o arian rydych chi'n ei dalu tuag at blismona drwy eich treth cyngor. Mae hwn bob tro yn benderfyniad anodd ei wneud, ac nid yw'n un yr wyf i’n ei wneud yn ysgafn.
Cyn i mi wneud penderfyniad ar gyllideb Heddlu Gwent ar gyfer 2023/24 rydw i eisiau clywed eich barn chi. Cymerwch ychydig amser i lenwi’r arolwg byr hwn i ddweud eich dweud.