Hwnt ac yma
5ed Gorffennaf 2022
Penwythnos diwethaf roedd fy nhîm allan yng nghymuned Gwent, yn ymweld â Gŵyl Maendy a ffair Ysgol Panteg, yn ogystal â digwyddiad Tu Ôl i’r Bathodyn Heddlu Gwent yng Nghwmbrân.
Fe wnaethon nhw siarad â channoedd o drigolion gan roi eitemau atal troseddu iddynt, yn ogystal â siarad â phobl am eu barn ar blismona lleol.
Y penwythnos hwn byddwn ym Mharti yn y Parc Pont-y-pŵl ym Mharc Pont-y-pŵl, felly os ydych chi’n bwriadu mynd, cofiwch alw draw a dweud helo.